David Cameron
Fe fydd Cabinet Ceidwadol llawn David Cameron yn cwrdd am y tro cyntaf heddiw.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog ddweud wrth  aelodau ei Gabinet mai’r Ceidwadwyr yw’r “blaid ar gyfer pobl sy’n gweithio.”

Bydd hefyd yn amlinellu mesurau a fydd yn ganolbwynt yn Araith y Frenhines, sef creu dwy filiwn o swyddi a helpu pobl gyda gofal plant.

Fe fydd hefyd yn cyhoeddi deddfwriaeth newydd a fydd yn cael ei chyflwyno o fewn yr wythnosau nesaf i ddiwygio budd-daliadau lles, gan roi uchafswm o £23,000 ar y budd-daliadau y gall teuluoedd eu hawlio.

Bydd yr arbedion, meddai David Cameron, yn helpu i dalu am greu rhagor o brentisiaethau a swyddi. Bydd hefyd yn cyflwyno Bil i  gynyddu’r gofal am ddim i blant tair a phedair oed i 30 awr yr wythnos.

Mae disgwyl iddo ddweud wrth ei Gabinet: “Peidiwch ag anghofio: rydym ni yma i roi cyfle i bawb yn ein gwlad i wneud y mwyaf o’u bywyd.”

Bydd yn dweud ei fod am i bawb gael y cyfle i gael swydd, ennill cyflog, fod yn berchen ar eu cartref eu hunain, a’r gallu i gefnogi eu teuluoedd.

“Ac i’r rhai sy’n methu gweithio, y gefnogaeth maen nhw ei hangen ym mhob rhan o’u bywyd.”

Y Cabinet

Mae nifer o wynebau cyfarwydd wedi cadw eu swyddi gan gynnwys y Canghellor George Osborne, yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May, yr Ysgrifennydd Tramor Philip Hammond, yr Ysgrifennydd Addysg Nicky Morgan a’r Ysgrifennydd Amddiffyn Michael Fallon. Fe fydd  Jeremy Hunt hefyd yn parhau’n Ysgrifennydd Iechyd ac Iain Duncan Smith yn parhau yn ei swydd fel yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau.

Fe fydd Stephen Crabb yn cadw ei swydd fel Ysgrifennydd Cymru a Patrick McLoughlin yn parhau yn Ysgrifennydd Trafnidiaeth.  Mae Liz Truss yn parhau’n Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Justine Greening yn Ysgrifennydd Datblygiad Rhyngwladol, a Theresa Villiers yn aros yn y Cabinet fel Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon.

Mae Sajid Javid wedi cael ei benodi’n Ysgrifennydd Busnes i olynu Vince Cable, a bydd John Whittingdale yn cymryd ei swydd fel Ysgrifennydd Diwylliant. Mae cyn gadeirydd y pwyllgor diwylliant wedi bod yn feirniadol iawn o drwydded deledu’r BBC ac mae disgwyl iddo wneud cyhoeddiad am hynny yn ystod yr wythnosau nesaf.

Ymhlith y wynebau newydd yn y Cabinet mae Amber Rudd sydd wedi cael ei phenodi’n Ysgrifennydd Ynni a Newid Hinsawdd, a Priti Patel wedi cael ei phenodi’n weinidog dros gyflogaeth.

Mae Greg Clark yn cymryd lle Eric Pickles fel Ysgrifennydd Cymunedau a Llywodraeth Leol.

Mae Michael Gove yn dychwelyd i’r Cabinet fel Arglwydd Ganghellor ac Ysgrifennydd Cyfiawnder, tra bod Chris Grayling yn dod yn Arweinydd Tŷ’r Cyffredin.

Bydd Boris Johnson yn mynychu cyfarfodydd gwleidyddol y  Cabinet tra’i fod yn parhau i fod yn Faer Llundain, ond ni fydd ganddo gyfrifoldebau  arbennig.