Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad rhyw yng nghanol dinas Casnewydd yn oriau man bore Llun.

Roedd dynes 24 mlwydd oed yn cerdded drwy danffordd yn y ddinas tua 2:30 y bore pan ddaeth dau ddyn ati ac ymosod arni.

Mae’r heddlu yn chwilio am dystion posibl gan gynnwys un dyn wnaeth siarad gyda’r ddynes yn dilyn yr ymosodiad.

Mae’r tyst posib yn cael ei ddisgrifio fel dyn gwyn yn ugeiniau a tua 5’10 o daldra, gyda gwallt du ac acen Casnewydd. Roedd yn gwisgo cardigan dywyll a throwsus loncian llwyd golau.

Mae’r heddlu yn apelio ar unrhyw un a oedd yn yr ardal ar y pryd neu sydd ag unrhyw wybodaeth a allai fod o gymorth i’r ymchwiliad i ffonio 101 gan ddyfynnu rhif 69 10/05/15, neu Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111.