David Miliband gyda'i frawd Ed yn 2011
Mae David Miliband wedi beirniadu ymgyrch etholiadol ei frawd ond wedi dweud na fydd yn ymgeisio fel arweinydd newydd y Blaid Lafur.
Dywedodd David Miliband wrth y BBC nad oedd pleidleiswyr “eisiau beth oedd yn cael ei gynnig”.
Mae David Miliband wedi bod yn bennaeth elusen yn Efrog Newydd ers iddo roi’r gorau i wleidyddiaeth pan gollodd ras am arweinyddiaeth y Blaid Lafur i’w frawd, Ed, yn 2010.
Ychwanegodd: “Yn amlwg, dydw i ddim yn ymgeisydd am yr arweinyddiaeth. Mae’r ymrwymiad rwy wedi ei wneud i fy swydd heb newid.”
Dywedodd hefyd na fyddai’n rhoi ei gefnogaeth i unrhyw un o’r ymgeiswyr eraill.