Tafarn y Blossoms yng Nghaergybi
Mae dyn sydd wedi cael ei gyhuddo o lofruddio dyn mewn tafarn yng Nghaergybi wedi gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth.

Ond mae Peter Garrod, 24 oed, o Drearddur wedi cyfaddef dynladdiad ar y sail nad oedd  yn ei iawn bwyll.

Bu’n ymddangos gerbron Llys y Goron Caernarfon heddiw.

Fe gafodd Peter Garrod ei gyhuddo yn dilyn marwolaeth landlord tafarn y Blossoms, David Jones, 46, ym mis Rhagfyr y llynedd.

Clywodd cwest ym mis Ionawr fod David Jones wedi marw o anafiadau i’w ben.

Mae’r erlyniad wedi derbyn y ple a bydd Peter Garrod yn cael ei gadw mewn uned ddiogel o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl tra’i fod yn cael ei asesu.

Bydd yn cael ei ddedfrydu yn ystod yr wythnos sy’n dechrau ar 20 Gorffennaf.