Mae Heddlu’r De wedi lansio apêl am wybodaeth ar ôl i garreg fawr gael ei thaflu trwy ffenest ystafell fyw tŷ ym mhentref Llancarfan ym Mro Morgannwg.
Cafodd menyw oedd yn y tŷ ar y pryd anafiadau i’w phen a’i chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru.
Dywedodd yr heddlu bod y digwyddiad wedi cymryd lle am tua 9:20 nos Wener, 24 Ebrill. Roedd perchnogion a sawl person arall yn y tŷ yn Middlehill.
Mae’r heddlu yn cynnal ymchwiliad i’r digwyddiad ac yn gofyn am gymorth gan y cyhoedd i ddod o hyd i’r troseddwyr.
Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth i ffonio 101.