Nigel Farage
Mae pwyllgor gwaith UKIP wedi gwrthod cais Nigel Farage i ymddiswyddo fel arweinydd y blaid.

Oherwydd hynny, mae’n parhau i fod yn arweinydd ar hyn o bryd.

Cyhoeddodd Nigel Farage y byddai’n rhoi’r gorau iddi ar ôl iddo fethu ag ennill sedd yn Ne Thanet yn yr etholiad cyffredinol.

Ond dywedodd cadeirydd UKIP, Steve Crowther, mewn datganiad heddiw fod pwyllgor gwaith cenedlaethol y blaid yn credu fod yr ymgyrch etholiadol wedi bod yn “llwyddiant ysgubol” a dywedodd fod aelodau’r pwyllgor wedi gwrthod llythyr ymddiswyddo Nigel Farage yn “unfrydol”.

Roedd Nigel Farage wedi argymell Suzanne Evans, dirprwy gadeirydd y blaid, fel arweinydd newydd pan fydd aelodau UKIP yn pleidleisio dros arweinydd newydd ym mis Medi.

Ond roedd hefyd wedi cadw cil y drws ar agor iddo’i hun gan ddweud efallai y byddai ef ei hun yn ailsefyll fel arweinydd ar ôl cymryd hoe o wleidyddiaeth dros yr haf.