Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw am ychwanegu at ddyletswyddau a chyllid y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Meddai Cymdeithas yr Iaith ei bod hi’n amser i’r Coleg gymryd “naid fawr ymlaen neu wynebu bygythiad i’w ddyfodol.”

Daw’r alwad oherwydd bod disgwyl i Lywodraeth Cymru wneud cyhoeddiad yn fuan am bwy fydd yn cael cytundeb i arwain maes Cymraeg i Oedolion ar draws Cymru – ac mae’r mudiad iaith yn pwyso am roi’r swyddogaeth i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mae’r Gymdeithas hefyd wedi dechrau trafod gyda phleidiau gwleidyddol yng Nghymru am yr hyn a fydd yn eu maniffestos ar gyfer etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesaf o ran hyrwyddo’r Gymraeg, ac wedi gwneud cynyddu gwaith y Coleg Cymraeg yn un o’r prif gynigion.

‘Pwerdy addysg uwch’

Dywedodd Ffred Ffransis, llefarydd y Gymdeithas ar addysg: “Os bydd y Coleg yn aros fel un chwaraewr bach yn unig yn y farchnad gystadleuol addysg uwch a sefydlwyd gan San Steffan, wedyn bydd mewn sefyllfa o wendid a bydd yn demtasiwn i lywodraeth gwtogi ar ei gyllideb. Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw’n hytrach am ddatblygu’r Coleg yn bwerdy addysg uwch Gymraeg.

“Byddwn yn trafod gyda phleidiau gwleidyddol i roi ymrwymiadau yn eu maniffestos i ddatblygu rôl y Coleg Cymraeg yn bellach. Byddwn yn trafod priodoldeb rhoi cyfrifoldeb am addysg 16+ i’r Coleg, fod y llywodraeth yn dyrannu cyfran gynyddol o brosiectau ymchwil ac astudiaethau dichonoldeb i’r Coleg eu cyfarwyddo trwy eu tîm eang o ddarlithwyr arbenigol, a bod datblygu cyrsiau addysg uwch Cymraeg ar y we.

“Gall addysg uwch Gymraeg arloesi o ran strwythurau newydd a bydd hyn yn rhoi statws a sicrwydd i’r Coleg am ei ddyfodol.”

Cymraeg i Oedolion

Wrth droi at y penderfyniad brys a ddisgwylir, dywedodd Ffred Ffransis: “Gall y llywodraeth ddangos ei ewyllys da trwy roi’r cytundeb am ddatblygu Cymraeg i Oedolion i’r Coleg Cymraeg. Mae’n anffodus fod dynwared San Steffan trwy ofyn i sefydliadau gystadlu yn erbyn ei gilydd i ennill y cytundeb mewn marchnadle, ond gall y llywodraeth wneud yn iawn am hyn trwy roi’r cytundeb i’r Coleg Cymraeg.”