Fe ddylid cryfhau rôl Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru er mwyn “codi hyder y cyhoedd”, yn ôl un o bwyllgorau’r Cynulliad.

Ymysg 18 o argymhellion y Pwyllgor Cyllid Cenedlaethol, maen nhw’n annog mwy o gydweithio rhwng yr Ombwdsmon, yr Archwilydd Cyffredinol a’r Comisiynydd Plant.

Fe ddylid hefyd cyflwyno mesur newydd yn y Cynulliad i ymestyn rôl yr Ombwdsmon a fyddai’n arwain at gefnogi’r “unigolion mwyaf agored i niwed”, yn ôl aelodau.

Y meysydd yr hoffai’r Pwyllgor Cyllid Cenedlaethol eu gweld yn cael eu cryfhau yw:

  • pwerau ymchwilio ar ei liwt ei hun;
  • cwynion llafar;
  • ymdrin â chwynion ar draws gwasanaethau cyhoeddus;
  • ymestyn awdurdodaeth yr Ombwdsmon i gynnwys darparwyr gofal iechyd preifat (mewn rhai amgylchiadau);
  • cysylltiadau â’r llysoedd.

Annibynnol

Rôl yr Ombwdsmon yw sicrhau bod unrhyw aelod o’r cyhoedd sy’n credu eu bod wedi cael cam gan gorff cyhoeddus yn gallu gwneud cwyn i ffigwr annibynnol.

“Mae’r Pwyllgor yn cytuno bod angen gwneud newidiadau i gryfhau rôl yr Ombwdsmon a sicrhau bod yr unigolion mwyaf agored i niwed, sydd yn aml yn dibynnu fwyaf ar ein gwasanaethau cyhoeddus, yn teimlo’n hyderus wrth gwyno,” meddai Jocelyn Davies AC, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid.

“Heb os, byddai pob un ohonom yn hoffi gweld dyfodol yng Nghymru sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus rhagorol, ond pe na bai’r gwasanaeth hwnnw’n bodloni disgwyliadau’r unigolyn, mae angen iddynt gael yr hyder yn yr Ombwdsmon i allu ymchwilio.”