Stephen Crabb yn cyrraedd Rhif 10, Downing Street prynhawn ma
Mae David Cameron wedi bod yn parhau i  enwi aelodau eraill ei lywodraeth ar ôl iddo gyhoeddi prif aelodau ei Gabinet dros y penwythnos.

Mae wedi rhoi swyddogaethau i Boris Johnson, Sajid Javid, Priti Patel, Amber Rudd, John Whittingdale a Robert Halfon.

Bydd Boris Johnson yn mynychu cyfarfodydd gwleidyddol y  Cabinet tra’i fod yn parhau i fod yn Faer Llundain, ond ni fydd ganddo gyfrifoldebau  arbennig.

Mae Sajid Javid wedi cael ei benodi’n Ysgrifennydd Busnes i olynu Vince Cable, un o’r swyddi sydd wedi cael eu gadael yn wag ers i’r Llywodraeth Glymblaid gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol ddod i ben.

Crabb yn cadw ei swydd

Fe fydd Stephen Crabb yn parhau yn Ysgrifennydd Cymru. Mae AS Preseli Sir Benfro wedi bod yn y swydd ers mis Gorffennaf y llynedd.

Wrth ymateb i’r penodiad, dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru: “Ers ei benodiad, mae Stephen Crabb wedi sicrhau trydaneiddio’r Cymoedd, goruchwylio creu swyddi ac arwain setliad datganoli newydd trwy’r Senedd, gan wneud Llywodraeth Cymru yn atebol am y tro cyntaf am godi rhywfaint o’r hyn y mae’n ei wario.

“Rwy’n falch iawn y bydd Stephen yn gallu parhau gyda’i waith pwysig yn siarad dros Gymru ar y Cabinet, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gydag ef.”

Penodiadau eraill

Mae Robert Halfon wedi cael ei enwi’n ddirprwy gadeirydd y blaid Geidwadol tra bod Amber Rudd wedi cael ei phenodi’n Ysgrifennydd Ynni a Newid Hinsawdd.

Mae Priti Patel wedi cael ei phenodi’n weinidog dros gyflogaeth ac mae  John Whittingdale yn cymryd yr awenau gan Sajid Javid fel Ysgrifennydd Diwylliant y DU.

Fe fydd Iain Duncan Smith yn parhau yn ei swydd fel yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau gan fod yn gyfrifol am ddiwygiadau dadleuol i fudd-daliadau.

Mae’n un o nifer o aelodau blaenllaw’r Cabinet sy’n cadw eu swyddi gan gynnwys y Canghellor George Osborne, yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May, yr Ysgrifennydd Tramor Philip Hammond, yr Ysgrifennydd Addysg Nicky Morgan a’r Ysgrifennydd Amddiffyn Michael Fallon. Fe fydd  Jeremy Hunt hefyd yn parhau’n Ysgrifennydd Iechyd.

Mae Michael Gove yn dychwelyd i’r Cabinet fel Arglwydd Ganghellor ac Ysgrifennydd Cyfiawnder, tra bod Chris Grayling yn dod yn Arweinydd Tŷ’r Cyffredin.

Fe fydd Patrick McLoughlin yn parhau yn Ysgrifennydd Trafnidiaeth ac mae Liz Truss yn parhau’n Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Justine Greening yn Ysgrifennydd Datblygiad Rhyngwladol, a Theresa Villiers yn aros yn y Cabinet fel Ysgrifennydd Gogledd Iwerddon.

Bydd Anna Soubry  yn weinidog yn yr Adran Fusnes, Menter a Sgiliau ac mae Oliver Letwin wedi cael ei ddyrchafu i fod yn aelod llawn o’r Cabinet gan fod yn gyfrifol am Swyddfa’r Cabinet.

Mae Greg Clark yn cymryd lle Eric Pickles fel Ysgrifennydd Cymunedau a Llywodraeth Leol.

Pwyllgor 1922

Y bore ma fe wnaeth David Cameron annerch pwyllgor dylanwadol o aelodau meinciau cefn y Ceidwadwyr.

Derbyniodd David Cameron groeso brwd gan aelodau  Pwyllgor 1922.

Cyn mynychu’r cyfarfod, dywedodd David Cameron yn gellweirus fod y gystadleuaeth am arweinyddiaeth y Blaid Lafur yn rhywbeth “hyfryd i wylio”.

Ar ôl y cyfarfod, dywedodd y Canghellor George Osborne: “Roedd o’n dderbyniad anhygoel ac yn gyfarfod gwbl wahanol i unrhyw un rwy erioed wedi mynychu yn yr holl flynyddoedd rwy wedi bod yn Geidwadwr.”

Wrth siarad gyda’r BBC ar ôl y cyfarfod, dywedodd cadeirydd y pwyllgor 1922, Graham Brady: “Mae’r ymdeimlad o ewyllys da yn y blaid tuag at y Prif Weinidog, rwy’n meddwl, yn argoeli’n dda iawn ar gyfer y blynyddoedd i ddod.”