Llys y Crwner yn Warrington
ydd ail ran cwest Hillsborough yn dechrau heddiw gyda’r rheithgor yn dechrau clywed tystiolaeth am y marwolaethau unigol yn y trychineb.
Bu farw 96 o gefnogwyr Lerpwl yng ngêm gynderfynol Cwpan yr FA rhwng Lerpwl a Nottingham Forest yn 1989.
Y cwest cyntaf i’w gynnal fydd y tad ifanc Carl Lewis o Warrington oedd yn 18 mlwydd pan fu farw.
Yn ystod cam cynta’r cwest, oedd yn canolbwyntio ar y trychineb yn ei chyfanrwydd, clywodd y rheithgor gan 305 o dystion.