Fe fydd swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru yn dechrau ar y gwaith o ddymchwel 150,000 o goed yng Nghoedwig Cwmcarn heddiw er mwyn atal afiechyd rhag lledu.

Mae’r coed wedi cael eu heintio gan glefyd ffwng o’r enw Phytophthora ramorum ac mae’n rhaid eu torri i lawr fel rhan o strategaeth genedlaethol.

Mae tua 6.7 miliwn o goed yng Nghymru wedi’u heintio gan y clefyd ac mae 3 miliwn wedi cael eu torri i lawr hyd yn hyn.

‘Sefyllfa drist’

Meddai Andy Schofield, Rheolwr Adnoddau Gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru: “Yn anffodus, allwn ni ddim stopio’r clefyd rhag ymledu, ond gallwn gymryd camau i arafu ei ledaeniad.

“Sefyllfa drist yw gorfod cwympo cymaint o goed, ond mae’n rhoi cyfle inni blannu o’r newydd amrywiaeth o goed collddail, brodorol sy’n gallu gwrthsefyll y clefyd, yn ogystal â choed sy’n cynhyrchu pren masnachol, fel sbriws.”

Bydd y Ganolfan Ymwelwyr a gaiff ei rhedeg gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a’r holl gyfleusterau eraill ar y safle, yn dal i fod ar agor.