Tafarn y Blossoms, Caergybi
Mae disgwyl i achos gychwyn yn erbyn dyn 24 sy’n cael ei gyhuddo o lofruddio dyn mewn tafarn yng Nghaergybi’r prynhawn yma.

Fe gafodd Peter Garrod, 24 oed, o Drearddur ei gyhuddo yn dilyn marwolaeth landlord tafarn y Blossoms, David Jones, ym mis Rhagfyr y llynedd.

Clywodd cwest ym mis Ionawr fod David Jones wedi marw o anafiadau i’w ben

Bydd Peter Garrod yn ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon am 2:00yp.