Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn  dilyn ymosodiad rhyw ar ddynes yng nghanol dinas Casnewydd yn oriau man fore ddoe.

Roedd dynes 24 oed yn cerdded trwy lwybr tanffordd ger cylchdro Old Green am tua 2:30yb bore dydd Sul, 10 Mai pan wnaeth dau ddyn ymosod arni.

Fe wnaeth y dynion redeg i ffwrdd yn dilyn yr ymosodiad.

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth am yr ymosodiad i gysylltu â’r heddlu ar 101 a dyfynnu cyfeirnod 69 10/05/15.