Y fflatiau ym Mhrestatyn lle be farw pum aelod o'r un teulu
Fe fydd perchennog fflatiau ym Mhrestatyn, lle bu farw pum aelod o’r un teulu mewn tân, yn ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ar gyhuddiad o ddynladdiad.

Bydd gwrandawiad cychwynnol yn achos y diffoddwr tân, Jay Brenton Liptrot, 43, yn cael ei gynnal am 2:00 y prynhawn ‘ma.

Mae Melanie Smith, a ddechreuodd y tân ym Maes y Groes, Prestatyn, eisoes wedi dechrau ar gyfnod o leiaf 30 mlynedd dan glo.

Clywodd llys ei bod hi wedi dechrau’r tân yn fwriadol yn dilyn ffrae am gadair wthio oedd wedi ei gadael yng nghyntedd y fflatiau.

Roedd Jay Liptrot yn un o’r diffoddwyr tân cyntaf i gyrraedd y safle.

Teulu

Bu farw Lee-Anna Shiers, 20 oed, ei nai Bailey Allen, pedair oed, a’i nith Skye Allen, dwy oed, yn y digwyddiad ar 19 Hydref 2012.

Cafodd ei mab 15 mis oed, Charlie, a’i phartner Liam Timbrell, 23 oed, eu hachub ond bu farw’r ddau yn yr ysbyty yn ddiweddarach.