Paddy Ashdown
Cafodd y Democratiaid Rhyddfrydol eu “lladd” gan arolygon barn anghywir cyn yr etholiad cyffredinol, yn ôl Paddy Ashdown.

Dim ond wyth Aelod Seneddol y blaid sydd ar ôl yn Nhŷ’r Cyffredin ar ôl noson drychinebus i’r Democratiaid Rhyddfrydol nos Iau ddiwethaf, gydag aelodau blaenllaw fel Vince Cable a Danny Alexander yn colli eu seddi.

Ar ôl dweud y byddai’n “bwyta ei het” petai canlyniad “pôl cyn gadael” yn gywir – roedd yn darogan buddugoliaeth i’r Ceidwadwyr – fe gyfaddefodd cyn arweinydd y blaid ei fod wedi ei “synnu” gan y canlyniad.

Mae’r rhai sy’n cynnal yr arolygon barn yn wynebu ymchwiliad annibynnol gan Gyngor Pleidleisio Prydain gan fod bron pob un pôl piniwn wedi awgrymu buddugoliaeth lawer llai i’r Ceidwadwyr dros Lafur.

Mewn cyfweliad gyda’r Guardian, dywedodd yr Arglwydd Ashdown: “Yr hyn wnaeth ein lladd ni oedd diffyg cywirdeb y polau (cynharach).

“Roedd yr arolygon wedi helpu’r Torïaid drwy bwysleisio’r ofnau yr oedden nhw wedi ei ddatgan mor groch. Roedd y cyhoedd yn ofni Miliband/Salmond yn fwy nag oedden nhw’n ofni mwyafrif Ceidwadol. Maen nhw ar fin darganfod pa mor anghywir oedden nhw.”

Fe fydd y dasg o ddod o hyd i arweinydd nesaf i olynu Nick Clegg yn dechrau ddydd Mercher a’r canlyniad yn cael ei gyhoeddi ar 16 Gorffennaf.  Mae disgwyl i Tim Farron a Norman Lamb fod ymhlith y ceffylau blaen yn y ras.