Liz Kendall yw’r aelod seneddol Llafur cyntaf i ddatgan ei bod hi’n sefyll fel ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth y blaid.

Mae’r llefarydd iechyd wedi beirniadu ymgyrch ei phlaid cyn yr etholiad cyffredinol, gan godi amheuaeth ynghylch eu gallu i drechu’r Ceidwadwyr yn 2020 hefyd.

Dywedodd y byddai codi’r blaid yn dilyn eu siom yn “eithriadol o anodd”.

Yn gynharach, gwrthododd Chuka Umunna daflu ei enw i mewn i’r het am yr arweinyddiaeth.

Ond mae’r ddau wedi gal war y blaid i fentro y tu hwnt i’r pleidleiswyr dosbarth gweithiol traddodiadol.

Dywedodd Liz Kendall wrth raglen Sunday Politics y BBC: “Dydy hi ddim yn ddigon i feirniadu’r hyn sy’n digwydd; rhaid i chi amlinellu rhywbeth y gall pobol gredu ynddo.”

Mae disgwyl i’r blaid drafod yr arweinyddiaeth yr wythnos hon.

Mae’r Arglwydd Mandelson wedi cyhuddo’r cyn-arweinydd Ed Miliband o golli cyfle da i lywodraethu trwy wneud “camgymeriad ofnadwy”, sef symud y blaid yn rhy bell i’r chwith.

Ychwanegodd nad oes gan y blaid bolisi economaidd credadwy.

Galwodd y cyn-Brif Weinidog Tony Blair ar y blaid i ddangos “uchelgais a dyhead”.

Yn y cyfamser, mae’r llefarydd addysg Tristram Hunt wedi awgrymu y gallai yntau hefyd sefyll fel ymgeisydd i arwain y blaid.