Mae wyth o blismyn a 14 o ddynion arfog wedi cael eu lladd mewn brwydr ym Macedonia.
Cafodd nifer o blismyn eraill eu hanafu yn y brwydro a ddechreuodd yn nhref Kumanovo yng ngogledd y wlad brynhawn ddoe.
Mae cyrff y dynion arfog wedi cael eu darganfod gan yr heddlu ac mae lle i gredu bod rhai yn perthyn i Fyddin Ryddid Kosovo Albania, ond dydy hynny ddim wedi cael ei gadarnhau.
Dywed swyddogion bod un o’r grwpiau mwyaf peryglus yn y wlad wedi cael eu ‘niwtraleiddio’.