Mae llefarydd busnes y Blaid Lafur, Chuka Umunna wedi gwrthod cadarnhau bod ganddo fe ddiddordeb i fod yn arweinydd ei blaid.

Mae’n un o’r enwau sydd wedi’u crybwyll i olynu Ed Miliband, oedd wedi ymddiswyddo yn dilyn ymgyrch etholiadol siomedig.

Ond dywedodd Umunna ei fod yn awyddus i chwarae rhan flaenllaw yn adfywiad ei blaid.

Dywedodd ei bod yn rhy gynnar i daflu ei enw i mewn i’r het, ond mae disgwyl i swyddogion y blaid gyfarfod yfory i drafod y ras am yr arweinyddiaeth.

Dywedodd Umunna fod Ed Miliband wedi bod yn “ddewr” yn ystod yr ymgyrch etholiadol, gan ddweud y gallai’r Blaid Lafur fod mewn grym ar ôl yr etholiad nesaf yn 2020.

Dywedodd wrth raglen Andrew Marr y BBC: “Dw i’n sicr yn bwriadu chwarae rhan mor llawn ag y galla i wrth ail-adeiladu ein plaid a chael y ddadl gywir sydd ei hangen arnom er mwyn sicrhau ein bod ni’n ennill.”

“Dw i ddim yn cytuno â’r awgrym fod gyda ni brosiect deng mlynedd er mwyn ail-adeiladu.

“Gallwn ni wneud hynny o fewn pum mlynedd os gwnawn ni’r penderfyniadau cywir nawr a chyflwyno achos uchelgeisiol a chydymdeimladol i bobol Prydain ac rydyn ni’n dda am wneud hynny. Gallwn ni wneud hyn.”