Mae hyfforddwr Cymru Warren Gatland wedi mynegi ei bryder am ddyfodol yr asgellwr George North.

Mae North wedi dioddef nifer o gyfergydion – yn erbyn Seland Newydd yn yr hydref, yn erbyn Lloegr ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ac i’w glwb Northampton – ac mae Gatland wedi dweud y gallai ei yrfa ddod i ben.

Dydy North ddim wedi chwarae ers iddo ddioddef cyfergyd tra’n sgorio cais i Northampton yn erbyn Picwns Llundain chwe wythnos yn ôl.

Ond mae’n bosib y gallai ddychwelyd i’r garfan ar gyfer rownd gyn-derfynol gemau ail-gyfle Uwch Gynghrair Aviva ymhen pythefnos.

Mae North eisoes wedi sgorio 22 cais i Gymru mewn 49 o gemau.

Dywedodd Warren Gatland wrth bapur newydd y Sunday Times: “Fe ges i gyfarfod gydag asiant George a dweud pe bawn i’n hollol hunanol y byddwn i’n dweud ‘George, paid chwarae yn y gemau olaf, gwna dy hun yn barod ar gyfer Cwpan y Byd.”

Ychwanegodd y byddai cyfergyd pellach yn golygu chwe mis neu flwyddyn allan o’r gêm.

“Mae e wedi bod allan am gryn amser ond mae e’n chwaraewr mor ifanc, pe bai e’n cael dau neu dri [cyfergyd] dros y flwyddyn nesaf, dyna ddiwedd ei yrfa, on’d e?

“Mae’n bryder ond galla i ddeall bod Northampton yn awyddus iawn i’w gael e nôl yn chwarae, yn enwedig tua diwedd y tymor.

Mae prif swyddog meddygol Undeb Rygbi Cymru, Prav Mathema wedi dweud bod datrys cyfergydion yn brif flaenoriaeth yn y byd rygbi ar hyn o bryd.