Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon wedi ategu ei neges na fydd sicrhau ail refferendwm annibyniaeth yn flaenoriaeth i’r llywodraeth.

Mae ei rhagflaenydd Alex Salmond wedi dweud bod buddugoliaeth ysgubol yr SNP yn golygu bod yr Alban yn nes at ail refferendwm.

Ond mae Sturgeon wedi wfftio’r awgrym, gan ddweud mai uno’r Alban yw ei nod.

Sicrhaodd yr SNP 56 allan o 59 o seddi yn yr etholiad cyffredinol, ac fe ddywedodd Salmond: “Mae’r Alban wedi gweld nifer o ddiwrnodau nad oedd llawer o bobol yn meddwl y bydden ni byth yn eu gweld.

“Roedd pobol yn credu na fyddai Senedd yr Alban; yna, roedd rhai pobol yn credu na fyddai Llywodraeth yr SNP, roedd rhai pobol yn credu na fyddai llywodraeth SNP fwyafrifol.

“Felly dyma’r garreg filltir ddiweddaraf yn yr hyn sy’n ymddangos fel pe bai’n gynnydd i bobol yr Alban.”

‘Cynrychioli pawb’

Wrth ymateb i’r sylwadau, dywedodd Nicola Sturgeon wrth raglen Andrew Marr y BBC: “Yr hyn ddywedodd Alex, a dw i ddim yn credu ei fod yn ddatganiad dadleuol iawn, yw ei fod yn credu y bydd yr Alban yn dod yn wlad annibynnol.

“Dw i’n credu y bydd yr Alban yn dod yn wlad annibynnol ryw ddiwrnod.

“Fe ddywedodd ei fod yn credu y bydd yn digwydd yn ystod ei oes yntau, a dw i’n gobeithio hynny.”

Ond gwadodd fod ffrae rhyngddi hi ac Alex Salmond, ac mai diben yr etholiad oedd sicrhau annibyniaeth.

“Fe ddywedais droeon, yn gyson ac yn benodol wrth bobol yr Alban pe baen nhw’n pleidleisio dros yr SNP, ac fe wnaeth hanner poblogaeth yr Alban hynny, na fyddwn i’n derbyn hynny o reidrwydd fel cefnogaeth i annibyniaeth. Dw i’n cadw at hynny.”

Ychwanegodd fod gan yr SNP gyfrifoldeb i gynrychioli pawb, waeth bynnag sut y gwnaethon nhw bleidleisio yn y refferendwm annibyniaeth.