Cafodd pump aelod o’r heddlu eu hanafu yn ystod protestiadau gwrth-lymder ger Stryd Downing ddoe.

Ymgasglodd y dorf i brotestio yn erbyn y llywodraeth Geidwadol newydd, ddiwrnod wedi i David Cameron hawlio’r fuddugoliaeth yn yr etholiad cyffredinol.

Mae 17 o bobol wedi cael eu harestio yn dilyn y protestiadau.

Cafodd cofeb i fenywod yr Ail Ryfel Byd ei difrodi yn ystod y brotest, ac mae Stryd Downing wedi beirniadu’r sawl oedd yn gyfrifol.

Mae lle i gredu bod y protestiadau wedi cychwyn y tu allan i bencadlys y Ceidwadwyr.

Dywedodd yr heddlu nad oedden nhw wedi cael eu hysbysu o’r protestiadau ymlaen llaw.

Roedd y gantores Charlotte Church mewn rali yng Nghaerdydd ddoe.

Dywedodd Heddlu Scotland Yard fod un plismon wedi datgymalu ei ysgwydd ac un arall wedi cael briwiau ar ei wyneb.

Mae’r heddlu wedi apelio am dystion.