Pont Brooklyn
Mae gorymdaith wedi cael ei chynnal tros bont Brooklyn yn Efrog Newydd i alw am gyfreithiau llymach yn ymwneud â dryllau.

Cafodd yr orymdaith ei chynnal rhwng Brooklyn a Manhattan am y drydedd flwyddyn yn olynol, a hynny ar benwythnos Sul y Mamau.

Dywedodd athrawes yn Sandy Hook yn Connecticut, lle cafodd 20 o blant a chwech oedolyn eu lladd yn 2012: “Mae cynnydd araf, ond un dydd ar y tro yw hi.”

Ychwanegodd fod oddeutu 40% o ddryllau’n cael eu prynu heb fod gwiriadau’n cael eu cwblhau i gefndir y prynwyr.

Mae nifer o gymdeithasau dryllau’n gwrthwynebu cynnal gwiriadau, gan ddweud bod nifer fawr o bobol sy’n berchen ar ddryllau’n eu prynu ar y farchnad ddu, ac na fyddai gwiriadau’n gwella’r sefyllfa.

Methodd cynnig i wella’r broses o gynnal gwiriadau pan gafodd ei gyflwyno gerbron Tŷ’r Cynrychiolwyr yn ystod y sesiwn diwethaf.

Ac wrth i’r Gweriniaethwyr gynyddu eu mwyafrif yn y Tŷ, mae hi bellach yn fwy annhebygol y bydd y cynnig yn cael ei dderbyn pe bai’n cael ei gyflwyno unwaith eto.

Yn ôl y drefn bresennol, mae siopau’n ffonio’r FBI i wirio nad oes gan gwsmeriaid gofnodion troseddol.

Mae ymgyrchwyr am ymestyn y drefn fel ei bod yn cynnwys ffeiriau dryllau a’r we.

Mae mwy nag 80 o bobol yn cael eu lladd gan ddryllau yn yr Unol Daleithiau ar gyfartaledd bob dydd.

Ar ddiwedd yr orymdaith yn Efrog Newydd, cafwyd rali y tu allan i Neuadd y Ddinas ym Manhattan isaf.