Mae nifer o wasanaethau a digwyddiadau’n cael eu cynnal heddiw i nodi 70 mlynedd ers diwedd yr Ail Ryfel Byd.
Bydd y gwasanaeth mwyaf yng Nghymru’n cael ei gynnal yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, lle bydd y Gweinidog Cyllid Jane Hutt yn bresennol.
Bydd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones yn mynychu gwasanaeth yn Abaty Westminster.
Yn Abertawe, fe fydd gorymdaith yn cael ei chynnal yng nghanol y ddinas.
Bydd gweithgareddau hefyd yn Llandudno, Tyddewi, Aberhonddu a’r Wyddgrug.