Mae un o gynghorwyr ieuengaf Cymru yn ymddangos yn y gyfres newydd o’r rhaglen deledu realiti Big Brother.

Yn ôl cynhyrchwyr y rhaglen, mae Joel Williams o Gaerdydd yn dyheu am fod yn Brif Weinidog ryw ddiwrnod.

Ar ei dudalen Twitter, mae Williams yn disgrifio’i hun fel Cristion, ymgyrchydd, cynghorydd cymunedol, llywodraethwr ysgol ac aelod o nifer o bwyllgorau.

Dyma’r tro cyntaf i enwau’r cystadleuwyr gael eu datgelu cyn i’r gyfres ddechrau.

Bydd y gyfres newydd yn dechrau nos Fawrth.

Emma Willis a Rylan Clark fydd y cyflwynwyr ar gyfer y rhaglen ar Channel 5.

Daeth cadarnhad fis diwethaf fod gan y darlledwyr gytundeb i ddarlledu’r rhaglen am dair blynedd arall.

Big Brother oedd y rhaglen a ddenodd y nifer fwyaf o gwynion i Ofcom y llynedd, gyda nifer o’r 3,784 yn cwyno am ymddygiad y cystadleuwyr.