Nicola Sturgeon
Roedd yr etholiad cyffredinol yn un cofiadwy i’r SNP wrth iddyn nhw gipio 50 o seddi er mwyn cynyddu eu cyfanswm i 56 ar draws yr Alban.

Dywedodd arweinydd y blaid, Nicola Sturgeon fod y canlyniadau’n “bleidlais ysgubol dros newid yn yr Alban”, ac mi addawodd y byddai ei phlaid yn sicrhau bod “llais yr Alban yn cael ei chlywed”.

Dywedodd Nicola Sturgeon y byddai ei phlaid yn parhau i wthio am ragor o bwerau i Holyrood.

Mae perfformiad yr SNP eleni yn trechu record y blaid, sef 11 o Aelodau Seneddol yn 1974.

Ond mynegodd yr arweinydd ei siom fod y Ceidwadwyr yn parhau mewn grym.

Yn sgil llwyddiant yr SNP, collodd Llafur afael ar 40 o seddi, sy’n golygu mai un aelod seneddol yn unig sydd ganddyn nhw yn yr Alban.

Ymhlith yr aelodau blaenllaw a gollodd eu seddi mae’r arweinydd Jim Murphy, Douglas Alexander a Margaret Curran.

‘Llais yr Alban’

Yn wyneb llywodraeth Geidwadol arall, dywedodd Nicola Sturgeon ei bod hi’n bwysig fod “tîm cryf o ASau SNP yn sefyll i fyny dros yr Alban”.

“Ni all llywodraeth San Steffan anwybyddu’r hyn sydd wedi digwydd yn yr Alban, mae pobol wedi pleidleisio mewn modd ysgubol er mwyn i lais yr Alban gael ei glywed ac er mwyn rhoi terfyn ar lymder.”

Annibyniaeth

Ond ychwanegodd nad oedd hi’n credu bod pleidlais dros yr SNP o reidrwydd yn golygu pleidlais dros annibyniaeth.

Dywedodd cadeirydd yr SNP, Derek Mackay fod y blaid wedi sicrhau “canlyniad rhyfeddol”.

“Dw i’n credu y bydd yn newid yr Alban, y bydd yn newid Prydain, mae sôn eisoes am ddiwygio cyfansoddiadol o ganlyniad, ac mae’n ganlyniad gwych.”

Ychwanegodd yntau hefyd nad oes cynlluniau ar y gweill ar gyfer refferendwm annibyniaeth arall i’r Alban.

“Roedden ni’n glir yn y maniffesto nad dyna oedd diben yr etholiad hwn.

“Nid yw’n fandad ar gyfer annibyniaeth, nid yw’n fandad ar gyfer refferendwm ar annibyniaeth.

“Diben yr etholiad hwn oedd sicrhau bod llais yr Alban yn cael ei glywed ac mae wedi cael ei glywed.”