Mae Heddlu’r De yn awyddus i siarad ag aelod o’r cyhoedd wnaeth ffonio’r gwasanaeth tân  ynglŷn â digwyddiad mewn fflat ym mhentref Sgiwen, ger Castell Nedd Port Talbot yn gynharach yn yr wythnos.

Bu farw dyn 54 oed yn y tân ond nid yw’r heddlu yn amau unrhyw drosedd.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i Ffordd Dinefwr am 8.43yh ar 5 Mai yn dilyn adroddiadau gan ddyn oedd yn cerdded heibio’r fflat ar adeg y tân.

“Rydym yn apelio ar y dyn wnaeth roi gwybod i un o’r preswylwyr cyn cysylltu hefo’r gwasanaeth tân i gysylltu â ni. Rydym eisiau siarad â fo fel rhan o’n hymchwiliad,”  meddai’r Ditectif  Nigel Morgan.

Gofynnir i unrhyw un sydd â gwybodaeth i alw’r heddlu ar 101.