Mae arweinydd UKIP, Nigel Farage wedi colli yn yr etholiad yn Ne Thanet, ac wedi ymddiswyddo fel arweinydd ei blaid.

Cyn yr etholiad, roedd Nigel Farage wedi awgrymu y byddai’n rhoi’r gorau i fod yn arweinydd ei blaid pe na bai’n ennill ei sedd.

Mae disgwyl iddo awgrymu bod ei ddirprwy, Suzanne Evans yn cymryd at yr arweinyddiaeth dros dro tan bod modd gwneud trefniadau mwy parhaol.

Mae’r Ceidwadwr Craig Mackinlay wedi llwyddo i ddal ei afael ar y sedd, gan drechu Farage o 2,822 o bleidleisiau.

Ond roedd pleidleisiau’r Ceidwadwyr i lawr 9.8% i 38.1%.

Roedd canran pleidleisiau UKIP i fyny 26.9% i 32.4%.

Ymhlith yr ymgeiswyr eraill, llwyddodd y comedïwr Al Murray i ennill 318 o bleidleisiau.

Y canlyniadau’n llawn:

Craig Mackinlay (Ceidwadwyr) – 18,848

Nigel Farage (UKIP) – 16, 026

Will Scobie (Llafur) – 11,740

Ian Driver (Y Blaid Werdd) – 1,076

Russell Timpson (Democratiaid Rhyddfrydol) – 932

Al Murray (Deyrnas Unedig Rydd) – 318

Ruth Bailey (Maes Awyr Manston Annibynnol) – 191

Nigel Askew (We Are the Reality) – 126

Grahame Birchall (Thanet Unedig) – 63

Dean McCastree (Annibynnol) – 61

Zebadiah Abu-Obadiah (Al-Zebabist Nation of Oog) – 30