Danny Jones Llun: Tudalen JustGiving
Daeth cadarnhad bod y chwaraewr rygbi’r gynghrair, Danny Jones wedi marw o ganlyniad i drawiad ar y galon oedd wedi’i achosi gan gyflwr oedd wedi’i etifeddu.
Cafodd Jones drawiad yn ystod gornest rhwng Keighley a Skolars Llundain ddydd Sul diwethaf, ac fe fu farw yn ddiweddarach.
Doedd afiechyd ar ei galon ddim wedi cael ei ddarganfod pan gafodd sgan ECG ei gynnal ar y chwaraewr yn 2014.
Mae Jones yn gadael gwraig a gefeilliaid pum mis oed.
Ers ei farwolaeth, mae cronfa wedi cael ei sefydlu er cof amdano, ac mae mwy na £77,000 wedi cael ei godi hyd yn hyn.
‘Trasig’
Dywedodd prif weithredwr Keighley, Gary Fawcett: “Tra bod canlyniadau’r archwiliad post mortem yn cynnig esboniad ynghylch pam y bu farw, does fawr o gysur yma i deulu Danny nac i’r sawl oedd yn ei adnabod.
“Mae ei farwolaeth drasig o gynnar yn boenus iawn i bawb o hyd, nid lleiaf oherwydd nad oedd yr ECG wedi gallu darganfod y cyflwr ar ei galon.
“Y cyfan allwn ni ei wneud nawr yw galaru am ei golli, dathlu ei fywyd a gwneud popeth allwn ni i Lizzie, gwraig Danny, a’u plant Bobby a Phoebe a’r teulu ehangach.”
Mae nifer o chwaraewyr a hyfforddwyr blaenllaw bellach yn galw am wella’r broses o gynnal profion y galon – dim ond yn y Super League y mae’r fath brofion yn orfodol ar hyn o bryd.