Wayne Parnell
Mae Morgannwg wedi arwyddo’r bowliwr cyflym llaw chwith Wayne Parnell fel chwaraewr tramor ar gyfer cystadleuaeth y T20 Blast.
Bydd Parnell, 25, yn ymuno â’i gydwladwyr Jacques Rudolph a Colin Ingram yn ddibynnol ar ganiatâd Bwrdd Criced De Affrica a chais llwyddiannus am fisa.
Mae disgwyl i Parnell fod ar gael ar gyfer yr ornest agoriadol yn erbyn Swydd Surrey ar gae’r Oval ar Fai 15.
Mae Parnell wedi chwarae mewn pedair gêm brawf, 33 o gemau T20 rhyngwladol a 46 o gemau unydd rhyngwladol, ac roedd yn aelod o garfan De Affrica ar gyfer Cwpan y Byd yn gynharach eleni.
Mae ganddo fe brofiad hefyd o chwarae gemau T20 yng nghystadleuaeth yr IPL yn India ac yn Lloegr gyda Swydd Gaint a Swydd Sussex.
Bydd Parnell ar gael am ddeg o gemau T20 Morgannwg y tymor hwn.
Yn dilyn cyhoeddi’r newyddion heddiw, dywedodd Wayne Parnell mewn datganiad: “Rwy’n gyffrous iawn am ymuno â Jacques Rudolph a Colin Ingram ill dau, ac am chwarae i Forgannwg.
“Fe fu criced T20 yn un o gryfderau Morgannwg a dw i’n awyddus i gyfrannu i ymgyrch lwyddiannus.
Dywedodd Prif Weithredwr Morgannwg, Hugh Morris: “Ry’n ni wrth ein bodd o gael sicrhau gwasanaeth Wayne Parnell, a gafodd ei glustnodi’n ifanc iawn yn un o chwaraewyr mwyaf disglair De Affrica, ac mae e’n chwaraewr amryddawn talentog naturiol.
“Fe fydd e’n fygythiad wrth gipio wicedi ac yn rhoi’r potensial i ni gael rhediadau gwerthfawr.
“Yn bwysicach, mae Wayne ar gael i ni am y rhan fwyaf o’n gemau grŵp yng nghystadleuaeth y T20 Blast Natwest ac fe fyddwn yn mynd yn ôl i drafod estyniad posib wrth i’r gystadleuaeth fynd yn ei blaen.”