Ryan Giggs
Artist o Gaernarfon sydd wedi ei ddewis i greu gwaith celf hynod yng ngwesty newydd Ryan Giggs a Gary Neville.
Mae gwaith Neil Roberts yn cael ei ddangos ar risiau’r gwesty newydd sy’n sefyll ger stadiwm Manchester United.
Cafodd yr artist gynnig y gwaith wedi i Gary Neville weld ei luniau ar wefan trydar. Cyn-amddiffynnwr Man U yw cyfarwyddwr llety’r gwesty.
Mae Neil Roberts wedi creu lluniau o arwyr y clwb sydd i’w gweld ar risiau clwb y cefnogwyr sy’n arwain at lolfa’r chwaraewyr a’r stafell gynhadledd.
“Mae’n anhygoel a braidd yn swreal i gael fy newis,” meddai Neil Roberts sy’n reolwr Yr Hwylfan yng Nghaernarfon.
“Roeddwn yn ofnus i ddechrau a ddim yn coelio’r peth. I ddechrau, doeddwn i ddim yn credu mod yn gallu ei wneud o, achos doeddwn erioed wedi gwneud rhywbeth fel hyn o’r blaen, ond wnes i sylweddoli y dylwn i gymryd y cyfle.”
“Deigryn yn fy llygaid”
“Dw i’n mynd i weld gemau Manchester United yn aml,” meddai Neil Roberts, “ac wedi gweld y gwesty yn cael ei adeiladu a’r gwaith celf yn siapio. Mi’r oeddwn yn gallu dangos y gwaith gorffenedig i fy mab cyn gêm Burnley, ac i fod yn onest, roedd deigryn yn fy llygaid, roedd fy mab fel finnau, yn falch iawn.”