Gary Pritchard yw arweinydd newydd Cyngor Ynys Môn.

Fe oedd yr unig ymgeisydd i gyflwyno’i enw, ac mae’n olynu Llinos Medi, Aelod Seneddol newydd Ynys Môn, oedd wedi bod wrth y llyw ers 2017.

Cafodd penodiad Gary Pritchard ei gadarnhau yng nghyfarfod llawn y Cyngor heddiw (dydd Iau, Medi 26).

Roedd y cyn-newyddiadurwr a chynhyrchydd chwaraeon wedi bod yn arweinydd dros dro ar y cyd â’r Cynghorydd Robin Williams.

Mae’n arweinydd Grŵp Plaid Cymru ers yr haf.

Ymhlith ei brif gyfrifoldebau fydd sicrhau dyfodol safle Wylfa, sefydlogrwydd a dilyniant i’r cyhoedd, datblygu’r economi i gefnogi’r Gymraeg, a pharhau i ddefnyddio premiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi a thai gwag hirdymor er lles prynwyr tro cyntaf.

‘Cysondeb, dyfalbarhad a chydweithio’

“Bydd cysondeb, dyfalbarhad a chydweithio yn allweddol wrth i ni symud ymlaen,” meddai’r Cynghorydd Gary Pritchard, sy’n cynrychioli ward Seiriol.

“Fel Arweinydd, byddaf yn rhoi cant y cant er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn darparu’r gwasanaethau gorau posib i bobol yr Ynys.

“Dyma’r nod – er ein bod yn parhau i wynebu heriau cyllidol sylweddol wrth geisio sefydlu Cyllideb ar gyfer 2025/26.

“Byddaf yn adeiladu ar waith dygn y cyn-arweinydd, Llinos Medi, a lwyddodd i roi’r Cyngor ar seiliau cadarn ac yn yr un modd yn barod i gydweithio gyda holl aelodau etholedig er mwyn gwireddu ein hamcanion a’n gwerthoedd er budd ein holl gymunedau a thrigolion.

“Nod Plaid Cymru, fel grŵp rheoli, yw parhau i arwain Cyngor sy’n perfformio’n dda a chyflawni amcanion Cynllun y Cyngor er mwyn sicrhau bod Ynys Môn yn ynys iach a llewyrchus lle gall pobol ffynnu.

“Mae’r weledigaeth yma wedi ein hymrwymo i ddarparu’r gwasanaethau gorau posib i holl drigolion yr ynys.

“Rydym yn hynod o falch o’r adroddiadau positif gafwyd yn ddiweddar ar ein Gwasanaethau Plant, Gwasanaethau Oedolion a’r Adran Addysg.

“Mae’r Gwasanaeth Tai yn parhau i ymateb i’r her dai lleol ac mae’r Adran Datblygu Economi yn gweithio’n ddiflino er mwyn ymateb i strategaethau’r ddwy Lywodraeth.

“Mae pob un o adrannau’r Cyngor yn cyflawni.

“Mae ein staff yn ased amhrisiadwy ac mae ein diolch yn fawr iawn iddyn nhw am lwyddo i gyflawni ein gofynion … a mwy.

“Byddaf fel arweinydd hefyd yn sicrhau bod cydweithio’n parhau ar sawl lefel ranbarthol a chenedlaethol gan roi llais cryf i’r awdurdod.

“Mae’r sefyllfa economaidd a’r argyfwng costau byw yn parhau i frathu.

“Mae galw cynyddol am ein gwasanaethau ac mae’r cyfnod sydd o’n blaenau am fod yn heriol iawn gyda chyllidebau yn cael eu gwasgu.

“Er gwaethaf hynny, mae yna gyfleoedd cyffrous i’r ynys ond mae angen i’r Llywodraeth wneud penderfyniadau buan fel ein bod yn gallu bod yn rhan o unrhyw siwrne a sicrhau’r buddion mwyaf i Fôn a’i thrigolion.”