Mae maethegydd a hyfforddwraig menopos o Ddyffryn Nantlle yn annog “mwy o drafodaeth” am y menopos.

Ar ôl gadael yr ysgol, aeth Elin Prydderch yn ei blaen i astudio therapi harddwch ac aromatherapi ym Mangor, cyn treulio dwy flynedd yn Llundain yn astudio meddyginiaeth maeth.

Ers iddi raddio o Brifysgol Aberystwyth mewn Ffilm a Theledu, mae hi bellach wedi ymgartrefu yng Nghaerdydd ac wedi ailgymhwyso fel adweithegydd (reflexologist).

Erbyn hyn, mae hi hefyd yn rhoi hyfforddiant sy’n ystyriol o drawma corfforol (somatic trauma informed coaching), ac yn arbenigo mewn lles yn ymwneud â’r menopos.

Cwrs colli pwysau’r menopos

Yn ogystal â gweithio fel hyfforddwraig menopos, mae Elin Prydderch hefyd yn gweithio fel hyfforddwraig perthnasoedd, rhywbeth ddangosodd iddi gymaint y gall y menopos effeithio ar fenywod.

“Mae o’n gymaint o ymbarél o gymaint o bethau corfforol sy’n digwydd o dan y menopos, ynghyd â chynnal perthynas,” meddai wrth golwg360.

“Mae o’n effeithio ar gymaint o elfennau o dy fywyd di, dy waith, dy gorff, dy feddwl di.

“Felly, dyma fi’n meddwl fod o’n ymbarél hyfryd i allu cefnogi merched.

“Dyna ydi fy passion i – cynghori merched a’u dysgu nhw pa mor anghygoel ydi’r corff.”

Ar hyn o’r bryd, mae hi’n arwain cwrs pythefnos sy’n rhoi arweiniad i fenywod ar sut i golli pwysau yn ystod cyfnod y menopos.

Daeth y syniad am y cwrs iddi yn ystod ei chyfnod o arwain cwrs oedd yn cefnogi menywod gyda phroblemau’r coluddyn.

Y gŵyn fwyaf iddi ei derbyn oedd cymaint o bwysau roedd y menywod yn ei roi ymlaen wrth fynd drwy gyfnod y menopos.

Er mwyn deall sut yn union i helpu eraill, mi wnaeth Elin Prydderch gymhwyso ar sut i golli pwysau’n gywir ac i weithio gyda’r corff.

“Yn y cwrs, dw i’n dysgu merched fod colli pwysau ddim yn rhywbeth rwyt ti’n ei wneud dros dro, fel mae lot o ddeiets yn ei wneud,” meddai.

“Os wyt ti’n newid y ffordd rwyt ti’n bwyta yn barhaol, rwyt ti’n naturiol wedyn yn cadw’r pwysau yna i ffwrdd am byth.

“Rwyt ti mewn rheolaeth ohono, ac wrth wneud y newidiadau yna o fwyta mewn ffordd cyflawn, osgoi bwydydd wedi’u prosesu a deall maeth, rwyt ti’n gweithio efo dy gorff wedyn.

“Bydd y pwysau yn disgyn i ffwrdd mewn ffordd iachus.

“Mae o amdan y bwyd rwyt ti’n ei fwyta, yndi, ond mae o’n fwy amdan y bwyd rwyt ti’n ei amsugno.

“Mae sut wyt ti’n amsugno maeth yn y guts yn cael dylanwad enfawr ar y ffordd rwyt ti’n cario pwysau.”

‘Derbyn bod dy gorff di’n mynd i newid’

Nod y cwrs yw addysgu’r merched am faeth a braster, a sut mae’r ffactorau hyn yn chwarae rhan yn ystod y menopos, gan fod “cymaint o gamddealltwriaeth” ynglŷn â’r peth, meddai Elin Prydderch.

Mae’r cwrs hefyd yn annog menywod i weithio gyda meddylgarwch a sut i ymlacio, gan fod straen hefyd yn “ddylanwad mawr” ar yr ymdrech i golli pwysau, meddai.

Mae hi mewn cyswllt dyddiol â’r cyfranogwyr yn trafod amrywiaeth o bynciau dylanwadol gwahanol, gan gynnwys cwsg, hormonau a delweddau.

“Dw i’n meddwl bod merched yn cael y neges fod ein cyrff ni’n ddiffygiol, yn enwedig efo’r cyfryngau cymdeithasol,” meddai.

“Mae o’n andwyol iawn i’n seicoleg ni fel merched.

“Rhan ohono fo ydi derbyn bod dy gorff di’n mynd i newid wrth fynd yn hŷn, ond wedyn i ddysgu hunangariad at dy gorff.

“Mae derbyn a charu dy gorff yn rhan fawr o’r cwrs, achos os wyt ti’n negyddol tuag at dy gorff drwy’r adeg, rwyt ti’n creu’r egni yna yn dy gorff.

“Wnes i ddewis y menopos achos dw i yr oedran yna fy hun.

“Mi wnes i wylio rhaglen Dot Davies am y menopos, a gweld merched yn cael eu cyfweld a meddwl, ‘Waw! Dydi rhain ddim yn deall y cysylltiad rhwng y ffordd rwyt ti’n bwyta, ac edrych ar ôl dy hun, a’r ffordd mae hynny’n effeithio dy menopos’.

“Mi o’n i’n gallu gweld gap yn y farchnad, achos yr unig beth oedd y merched yma yn gallu troi ato oedd HRT – sydd â’i le yn bendant – ond mae yna lot o ffyrdd gwahanol eraill alli di gefnogi dy hun.

“Ges i’r syniad wedyn i ddechrau busnes o gwmpas y hynny.”

Cafodd hi ymateb gwych wrth hysbysebu’r cwrs ar-lein, ac mae’n “wych” cael y cyfle i hyfforddi drwy gyfrwng y Gymraeg hefyd, meddai.

‘Gallu bod yn le ynysig iawn’

Mae Elin Prydderch o’r farn bod yr elfen o dabŵ yn dal yn gysylltiedig â’r menopos, er bod pethau i weld yn gwella.

Mae’r cyfle i baratoi cyn y menopos yn “hollbwysig”, meddai, fel nad yw pobol yn ei ofni ac er mwyn osgoi camddeall y symptomau.

“Dw i’n meddwl fod o’n gallu bod yn lle ynysig iawn,” meddai.

“Y peri-menopos sy’n digwydd gynta’, ac mae hynny’n gallu digwydd unrhyw bryd o 35 ymlaen.

“Does yna ddim addysg ddigon cynnar amdano.

“Mae cymaint o symptomau, a’r un gwaethaf dwi’n meddwl ydi’r gorbryder a mynd yn anghofus, sy’n effeithio ar waith merched.

“Mae’n lle brawychus i fod ac, yn aml, beth dw i’n ei glywed gan y merched yw fod lot ohonyn nhw’n cael eu rhoi ar antidepressants, a dim dyna ydi o.”

Mae hi’n annog “mwy o drafodaeth” fel nad yw merched yn teimlo eu bod nhw ar eu pennau eu hunain ac yn deall mai’r menopos sydd wrth wraidd y newidiadau maen nhw’n eu hwynebu.

I rai sydd â diddordeb, mae hi’n cynnig galwadau ffôn hanner awr am ddim er mwyn llunio’r cynllun mwyaf addas, ac yn annog merched i estyn allan i siarad.

Synfyfyrion Sara: y ‘menopot’ ac arwyddion eraill

Dr Sara Louise Wheeler

Dod i adnabod symptomau’r menopos a dod i delerau â nhw