Mae cyn-lywydd Real Madrid, Ramon Calderon, eisiau gweld Gareth Bale yn aros gyda’r clwb er gwaetha’r feirniadaeth lem gafodd y Cymro yn dilyn y perfformiad yn erbyn Juventus, pan gollodd y clwb o Sbaen o 2-1.

Bu seren Cymru dan y lach yn ddiweddar gyda rhai o gefnogwyr y Bernabeu a’r Wasg yn amau ei werth. Cafodd gêm ddistaw yn y golled yn erbyn Juventus ac fe amcangyfrifwyd ei fod wedi pasio a chyffwrdd y bêl leiaf o’r holl dȋm, gan gynnwys y gôl-geidwad Iker Casillas. Ond dyma’r gêm gyntaf lawn iddo chwarae ar ôl dychwelyd o anaf.

Yn wyneb y feirniadaeth ddiweddar, mae Ramon Calderon – oedd yn lywydd ar Real Madrid rhwng 2006 a 2009 – yn grediniol fod Bale am barhau gyda Real.

“Nid oes gen i reswm i feddwl nad ydi o am aros. Mae’n chwaraewr da iawn ac wedi ymrwymo i’r tȋm,” meddai.

“Bron fel erledigaeth”

Mae Gareth Bale wedi cael ail dymor anodd yn y Bernabeu ers iddo arwyddo gyda’r clwb am £85.3 miliwn.

Fe gafodd ei feirniadu gan gyn-chwaraewr Gweriniaeth yr Iwerddon, Roy Keane a’i gyhuddo o “gynnig dim byd” yn ystod y gêm.

Ond serch hynny, fe ddywedodd cyn-chwaraewr Lerpwl a Gweriniaeth yr Iwerddon, Mark Lawrenson ar Radio 5 Live fod y feirniadaeth ohono yn llym.

“Nid oeddyn nhw yn cwyno amdano’r llynedd pan wnaeth o sgorio yn gêm derfynol Cynghrair Pencampwyr Ewrop nac oedden nhw?

Ychwanegodd am y feirniadaeth: “Dw i’n gweld o’n rhyfedd iawn, a bron fel erledigaeth.”