Mae teulu’r chwaraewr pêl-droed, Jimmy Greaves, wedi cyhoeddi ei fod allan o uned ofal dwys, yn dilyn strôc ddifrifol a ddioddefodd ddydd Sul.

Bellach mae’r cyn-ymosodwr gyda Chelsea, AC Milan a Spurs yn gallu eistedd i fyny yn ei wely.

Mae’r teulu wedi diolch am yr holl gefnogaeth yn ystod y cyfnod anodd hwn: “Yr ydym ddiolchgar i holl staff yr ysbyty sydd wedi bod yn ffantastig.”

Peiriant sgorio

Sgoriodd Jimmy Greaves 44 o goliau mewn 57 o gemau dros Loegr, a 220 mewn 321 o gemau i Spurs ac mae ganddo’r record sgorio orau o ran goliau y gêm yn Ewrop.