Mae Morgannwg wedi cadarnhau eu bod nhw’n awyddus i gadw’r bowliwr cyflym Andy Carter ar fenthyg o Swydd Nottingham.

Ymunodd Carter â’r sir am fis cynta’r tymor, ac mae e wedi cipio pedair wiced mewn batiad dair gwaith yn ei dair gêm Bencampwriaeth gyntaf.

Daeth Carter i Forgannwg fel eilydd yn lle’r Awstraliad, Michael Hogan, sydd bellach wedi dychwelyd i’r garfan.

Carter oedd ar frig y rhestr cyfartaleddau bowlio yn Adran Gynta’r Bencampwriaeth y tymor diwethaf cyn i’w dymor ddod i ben yn sgil anaf i’w gefn.

Dywedodd prif hyfforddwr Morgannwg, Toby Radford: “Mae potensial i ymestyn y cyfnod benthyg.

“Mae e wedi bowlio’n dda iawn ac mae e wedi gwella gyda phob gornest.

“Mae e wedi creu argraff arna i, y ffordd wnaeth e a Craig Meschede fowlio yn y cyfnod hwnnw ar ôl cinio ar yr ail ddiwrnod, oedd wedi troi’r batiad ar ei ben.

“Mae e’n trio’n galed, yn fachan cryf ac mae e am fowlio o hyd ac o hyd, a dyna beth ry’ch chi am ei gael.”