Mae hyfforddwyr Morgannwg wedi amddiffyn eu penderfyniad i gau’r batiad ar drydydd diwrnod eu gornest Bencampwriaeth yn erbyn Swydd Derby yn Stadiwm Swalec ddoe.

Roedd Cyfarwyddwr Perfformiad Elit yr ymwelwyr, Graeme Welch wedi cyhuddo’r Cymry o gau’r batiad er mwyn eu hamddifadu o bwyntiau bonws yn ystod gornest a gafodd ei heffeithio’n sylweddol gan y glaw.

Gorffennodd hi’n gyfartal rhwng y ddwy sir heddiw.

Yn dilyn trafodaethau rhwng y timau, y dyfarnwyr a Bwrdd Criced Cymru a Lloegr, daeth cadarnhad fod gan Forgannwg yr hawl i gau’r batiad pan wnaethon nhw, er mwyn ceisio ennill yr ornest.

Mynnodd y capten Jacques Rudolph brynhawn ddoe nad oedd Morgannwg wedi gwneud unrhyw beth o’i le, a chafodd ei farn ei hategu heddiw gan y prif hyfforddwr, Toby Radford a’r is-hyfforddwr, Robert Croft.

Dywedodd Robert Croft: “Ro’n ni wedi mynd ma’s i drio ennill y gêm. Roedd pawb yn dweud bod y glaw yn dod mewn. O’n ni’n meddwl mai’r ffordd orau i fynd ma’s i ennill oedd bowlio nhw ma’s.

“O’dd e’n galed iawn ma’s yn y canol. Ro’dd pawb yn gwybod fod y gwynt yn uffernol ma’s ’na. Yn y diwedd, dyn ni ddim wedi colli.

“Mae’n rhywbeth ry’n ni wedi siarad amdano. Mae’n bwysig bo ni’n dodi pethau’n gywir i’r dyfodol. Nagyn ni moyn mynd mewn i position fel’na yn y dyfodol.

“Ry’n ni wedi siarad amdano fe a gobeithio bod pethau’n troi rownd nawr.”

‘Ffars’

Dywedodd y prif hyfforddwr, Toby Radford nad oedd Morgannwg yn bwriadu creu ‘ffars’ drwy gau’r batiad ar adeg dyngedfennol.

“Y peth diwetha ry’ch chi am ei wneud yw troi’r ornest yn ffars. Ry’ch chi’n dal i drio cipio wicedi.

“Mae Michael Hogan yn chwarae’n dda gyda’i rythm.

“Mae gyda ni fowlwyr eraill sy’n bowlio’n dda iawn ar hyn o bryd. Yn y lle cyntaf, ry’n ni’n trio cipio wicedi, ond hefyd yng nghefn ein meddwl, ry’n ni’n ymwybodol nad y’n ni am golli pwyntiau wnaethon ni ennill yn gynharach yn yr ornest.

“Mae’n rhywbeth ry’n ni’n ei drafod ym mhob cyfarfod, sef pwysigrwydd fod y bowlwyr yn bowlio’u pelawdau’n gyflym.

“Os y’ch chi’n lleihau nifer yr ychwanegiadau ry’ch chi’n bowlio – gallai pob un olygu pelawd neu ddwy ychwanegol gyda’i gilydd – mae hynny’n cymryd cryn amser hefyd. Mae’r cyfan gyda’i gilydd yn bwysig ac ry’n ni yn trafod hynny. Cyfrifoldeb cilyddol ar y cae sydd bwysicaf.”

Ennill

Ychwanegodd Radford ei fod yn teimlo ar y trydydd diwrnod fod gan Forgannwg obaith o ennill yr ornest er gwaetha’r tywydd garw, a rhagolygon gwael ar gyfer y pedwerydd diwrnod.

“Wedi i ni’u bowlio nhw allan am oddeutu 200, ro’n i’n meddwl bod gyda ni siawns go dda o ennill yr ornest.

“Roedden nhw ychydig yn wan o ran eu trefn fatio ac ro’n i’n teimlo bod siawns go dda o’u gael nhw allan.

“Mae angen pedwar diwrnod arnoch chi i geisio ennill gemau pedwar diwrnod.

“Ond roedden ni wir yn teimlo mai [cau’r batiad] oedd ein siawns orau o ennill yr ornest.

“Roedd yr amodau’n addas ar gyfer bowlio cyflym, roedd yn damp, ac roedden ni’n credu y byddai’r bêl yn symud o gwmpas.

“Wedi i ni gipio chwe wiced am 50 rhediad wedi’r egwyl am ginio ar yr ail ddiwrnod, ro’n ni’n credu y gallen ni wneud hynny eto a dyna oedd ein siawns orau o ennill yr ornest.

“Ry’n ni wedi cael triphwynt bonws am fowlio’n dda yn y batiad cyntaf. Y peth diwethaf ry’ch chi am wneud yw colli’r gwaith caled hynny. Dwi’n falch ein bod ni wedi ad-ennill y rheiny ac wedi cael pwyntiau am ornest gyfartal.

“Ry’ch chi am geisio ennill gemau ac ry’n ni bob amser yn ceisio ennill ond allwch chi ddim rheoli’r tywydd.”

Rheolau’r ECB

Eglurodd Radford fod y rheolau ynghylch cau’r batiad yn gymhleth ac yn annelwig, ac nad oedd gan Fwrdd Criced Cymru a Lloegr ateb pendant i’r ffrae rhwng Morgannwg a Swydd Derby.

“O siarad gydag Alan Fordham o’r ECB ddoe, fe ddywedodd e droeon ei bod yn fan llwyd. Ble mae tynnu’r llinell? Does neb wir yn gallu cynnig ateb.

“Dwi ddim yn credu y dylech chi gael eich cosbi am chwarae criced mewn modd positif. Mae cymal yn llawlyfr yr ECB sy’n trafod ceisio atal rhywun rhag ennill pwyntiau bonws. Ar Fai y pedwerydd neu’r pumed, dyna’r peth diwethaf ar fy meddwl. Ry’n ni’n ceisio ennill gemau. Pe bai hi’n Fedi’r 20fed, fe fyddai ychydig bach yn wahanol.”