Gorffennodd yr ornest Bencampwriaeth rhwng Morgannwg a Swydd Derby yn gyfartal yn Stadiwm Swalec ar y diwrnod olaf heddiw.

Cafodd cyfanswm o 223.1 o belawdau eu colli dros y pedwar diwrnod yn sgil y cyfuniad o law a golau gwael yn y brifddinas.

A dyna arweiniodd at y ffrae sydd wedi bod yn gysgod dros yr ornest hon, wrth i Forgannwg gau eu batiad cyntaf brynhawn ddoe ar 103-4 mewn ymgais i wella’u cyfradd fowlio.

Cafodd Morgannwg eu cyhuddo gan Gyfarwyddwr Perfformiad Elit Swydd Derby, Graeme Welch o weithredu’n groes i ysbryd y gêm wrth gau eu batiad tra bod y chwaraewyr i ffwrdd o’r cau yn sgil y glaw.

Roedd bowlio unwaith eto yn yr ail fatiad yn hanfodol i Forgannwg er mwyn cael y cyfle i wella’u cyfradd fowlio, ond roedd y capten Jacques Rudolph yn mynnu mai ennill y gêm oedd y flaenoriaeth.

Yn gynharach yn yr ornest, roedd yr ymwelwyr wedi sgorio 205 yn eu batiad cyntaf i sicrhau blaenoriaeth o 102.

O ran gorchestion unigol, sgoriodd Scott Elstone ei gyfanswm gorau erioed (103*) wrth i Swydd Derby orffen y dydd ar 209-2 wedi cau’r batiad.

Tra na fydd y gêm hon yn cael ei chofio fel un o glasuron y tymor, gallai goblygiadau’r ffrae ar y trydydd diwrnod fod yn destun trafod am gryn amser i ddod.