Owain Fôn Williams
 Mae Tranmere wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi rhyddhau’r golwr Owain Fôn Williams o’i gytundeb ar ôl i’r clwb ddisgyn allan o Gynghrair Dau i’r Gyngres.

Dywedodd y clwb eu bod nhw’n gadael i saith chwaraewr fynd nawr, a hynny er mwyn rhoi digon o amser iddyn nhw ganfod clybiau newydd ar gyfer y tymor nesaf.

Mae Owain Fôn Williams yn ail ddewis i dîm cenedlaethol Cymru ar hyn o bryd, er nad ydi o wedi ennill cap rhyngwladol llawn dros ei wlad eto.

Mewn datganiad fe ddywedodd cadeirydd y clwb Mark Palios y byddai colled ar ôl y golwr o Benygroes.

“Hoffwn ddiolch i’r chwaraewyr yma am eu cyfnod gyda Tranmere yn enwedig Iain Hume ac Owain Fôn Williams,” meddai’r cadeirydd.

“Mae’r ddau wedi treulio cyfnod sylweddol o’u gyrfa gyda Tranmere ac wedi gwneud llawer o ffrindiau o gwmpas y clwb ac ymysg y cefnogwyr.

“Mae gadael iddyn nhw adael yn gynnar yn rhoi digon o amser iddyn nhw ystyried beth maen nhw am ei wneud nesaf, ac rydyn ni’n dymuno pob lwc iddyn nhw yn y dyfodol.”