Mae hyfforddwr Swydd Derby, Graeme Welch wedi cyhuddo Morgannwg o ymddwyn yn groes i ysbryd criced ar ôl iddyn nhw benderfynu gau’r batiad ar 103-4 ar drydydd diwrnod eu gêm Bencampwriaeth.

Dim ond 4.5 o belawdau a gafodd eu bowlio heddiw, ac fe benderfynodd Morgannwg gau eu batiad cyntaf tra bod y chwaraewyr oddi ar y cae.

Wrth i’r golau wella ychydig yn ystod y sesiwn olaf, dychwelodd y chwaraewyr i’r cae am 5.50, a’r ymwelwyr yn disgwyl cychwyn eu hail fatiad, ond fe waethygodd y golau unwaith eto gan roi terfyn ar y chwarae am weddill y dydd.

Fe fu trafodaethau rhwng Morgannwg, Swydd Derby, y dyfarnwyr a Bwrdd Criced Cymru a Lloegr ynghylch penderfyniad y Cymry i gau eu batiad, ac roedd yr ymwelwyr wedi cyhuddo Morgannwg o’u hamddifadu o bwyntiau bowlio.

Roedd cyfradd fowlio Morgannwg yn araf yn ystod batiad cyntaf Swydd Derby, ac fe fydden nhw wedi cael eu cosbi pe na bai’r gyfradd wedi gwella yn ystod yr ail fatiad.

Penderfynodd Pennaeth Gweithrediadau’r Bwrdd Criced, Alan Fordham fod cau’r batiad o fewn rheolau’r gêm, ond mae’n bosib y gallai ymchwiliad gael ei gynnal ar ddiwedd yr ornest.

Y cyhuddiad

Dywedodd Cyfarwyddwr Perfformiad Elit Swydd Derby, Graeme Welch: “Roedden ni am eu bowlio nhw allan am oddeutu 150.

“Mae’n bosib y bydd tywydd [garw] o gwmpas yfory ond dydyn ni ddim yn chwarae criced yn y modd hwnnw, rydyn ni’n ceisio gwneud pethau’r ffordd iawn.

“Yr hyn sydd wedi digwydd yma yw, oherwydd eu bod nhw dair pelawd ar ei hôl hi, maen nhw wedi penderfynu cau’r batiad sydd, yn fy marn i, yn anhygoel ac yn mynd yn erbyn ysbryd criced.

“Y rheswm dw i’n gwybod am hyn yw oherwydd, pan o’n i gyda Swydd Warwick, fe wnaethon ni drio tynnu allan fel hyn ond doedd dim hawl gyda ni.

“Dyma’r union sefyllfa. Oherwydd fod ganddyn nhw gyfradd fowlio araf, roedden nhw’n ein hamddifadu ni o ddau bwynt bowlio.

“Fe siaradais i ag Alan Fordham am hyn ond wnaeth e ddim dweud llawer iawn.

“Maen nhw [Morgannwg] yn dweud eu bod nhw’n tynnu allan er mwyn ceisio ennill y gêm ond ry’n ni’n gwybod yn iawn y bydd hi’n arllwys y glaw yfory a’r unig reswm maen nhw’n gwneud hyn yw er mwyn gwella’u cyfradd fowlio, a’n hamddifadu ni o ddau bwynt bowlio.”

Amddiffyn y penderfyniad

Mae capten Morgannwg, Jacques Rudolph yn mynnu bod y penderfyniad i gau’r batiad yn un positif er mwyn ceisio ennill y gêm.

“Dw i’n gwybod fod eu hyfforddwr nhw wedi siarad â’r dyfarnwyr ac wedi ypsetio am y penderfyniad i gau’r batiad.

“Fe wnaethon ni drafod y mater gyda’r dyfarnwyr ac fe wnaethon nhw wirio’r peth gydag Alan Fordham. Fe wnaethon ni gau’r batiad ac roedden nhw allan yn barod i fowlio ar y pryd.

“Daeth [y dyfarnwr] Nigel Cowley i mewn i’n hystafell newid ni a sôn bod cymal yn y rheolau.

“Mae’n ymwneud ag ysbryd criced ac amddifadu timau o bwyntiau.

“Clywodd Swydd Derby am y penderfyniad i gau’r batiad ac fe siaradon nhw ag Alan Fordham am y cymal yma ond roedd bwriad positif gyda ni wrth gau’r batiad ac fe wnaethon ni drafod hyn ymysg ein gilydd amser cinio.

“Nid amddifadu Swydd Derby o bwyntiau oedd y bwriad.

“Rydyn ni hefyd yn colli’r cyfle i gael pwyntiau batio ond roedd yna nod ehangach sef ceisio’u bowlio nhw allan yn rhad.”

Ychwanegodd Rudolph ei fod yn bwriadu gofyn i’r bowlwyr cyflym Michael Hogan ac Andy Carter i agor y bowlio, ac felly doedd dim bwriad i gyflymu’r gyfradd trwy fowlio’r troellwyr.

“Galla i roi fy ngair mai’r bois fyddai wedi agor y bowlio heno yw Andy Carter a Michael Hogan.

“Pe bai [y penderfyniad] o ganlyniad i’n cyfradd fowlio, fe fyddwn i wedi gofyn i Dean Cosker agor y bowlio gyda fi ond nid dyna’r bwriad.

Ymateb yr ymwelwyr

Wrth ymateb i sylwadau Rudolph, ychwanegodd Graeme Welch: “Rhaid iddyn nhw ddweud hynny.

“Rydyn ni’n ceisio chwarae’r gêm yn yr ysbryd iawn ac rydyn ni’n ceisio gwneud y peth iawn.

“Pe bai’n ddiwedd y tymor, fe fyddai wedi mynd yn draed moch.

“Oherwydd mai’r dechrau yw e, mae’n iawn.”