Mae cwmni BT wedi cyhoeddi elw o £3.17 biliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Daw hyn yn dilyn blwyddyn lwyddiannus i’r cwmni cyfathrebu, wedi iddyn nhw dalu am yr hawl i ddangos rhai o gemau Uwch Gynghrair Lloegr a phrynu cwmni ffonau symudol EE am £12.5 biliwn.

Yn ôl Prif Weithredwr BT bu’n flwyddyn lwyddiannus i’r cwmni.

“Mae’r flwyddyn hon wedi torri tir newydd i BT,”  meddai Gavin Patterson, “gyda buddsoddiadau sylweddol wedi profi’n hwb i dwf y cwmni.”

Bydd BT yn dangos pêl-droed Cynghrair Pencampwyr Ewrop fis Hydref ar ôl talu £897 miliwn am yr hawl. Hefyd mae’r cwmni wedi talu £960 miliwn i ddangos 42 o gemau’r Uwch Gynghrair bob tymor am dair blynedd.