Mae cyn-aelod o’r IRA wedi cael ei saethu’n farw ger canol dinas Belfast yn Iwerddon.
Cafodd Gerard “Jock” Davison ei saethu’n farw ger ardal Markets, sy’n ardal weriniaethol, tua 9:00 y bore ‘ma.
Honnir bod Gerard Davison wedi bod yn gysylltiedig â ffrae a arweiniodd at farwolaeth Robert McCartney o Belfast ym mis Ionawr 2005, ac roedd ymhlith tri o aelodau’r IRA a gafodd eu diarddel yn dilyn ymchwiliad mewnol i’r digwyddiad.
Cafodd ei holi gan yr heddlu a’i ryddhau yn ddi-gyhuddiad.
Mae adroddiadau bod presenoldeb yr heddlu yn gryf yn yr ardal a phebyll gwyn fforensig wedi’u codi yno.
Dywedodd arweinydd plaid yr SDLP, Alasdair McDonnell: “Mae hon yn drosedd erchyll. Doedd gan y rhai sy’n gyfrifol ddim ystyriaeth o gwbl am unrhyw un arall fyddai wedi medru cael eu dal yn y sefyllfa, ddigwyddodd yng nghanol awr brysuraf y bore.”
Mae’r heddlu yn ymchwilio i’r digwyddiad.