Roedd yr FBI wedi bod yn goruchwylio un o’r dynion arfog sy’n cael ei amau o ddechrau saethu tu allan i gystadleuaeth celf yn Texas, oedd yn cynnwys cartwnau o’r Proffwyd Mohammed, ers 2006.

Ond er iddyn nhw ei wylio am fwy na 1,500 o oriau, death i’r amlwg mai dim ond unwaith y cafodd ei erlyn yn y llys.

Fe wnaeth yr FBI recordio Elton Simpson yn siarad am ymladd ar ran Allah, a’i gynlluniau i deithio i Dde Affrica a chysylltu gyda’i “frodyr” yn Somalia.

Cafodd Elton Simpson ei arestio yn 2010, ddiwrnod cyn i’r awdurdodau ddweud ei fod yn bwriadu gadael am Dde Affrica. Ond dim ond un cyhuddiad oedd o’n gorfod ei wynebu yn y llys – cyhuddiad o ddweud celwydd wrth asiant ffederal.

Ar ôl blynyddoedd yn ymchwilio Elton Simpson, cafodd ddedfryd ohiriedig o dair blynedd a bu’n rhaid iddo dalu £400 mewn dirwyon a ffioedd y llys.

Ddydd Sul, fe wnaeth dau ddyn, sydd wedi cael eu hadnabod fel Elton Simpson a Nadir Soofi, ddechrau saethu ar swyddog diogelwch yn Garland ger Dallas y tu allan i’r safle lle’r oedd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal.

Roedd y gystadleuaeth yn fwriadol bryfoclyd ac roedd disgwyl y byddai’r gymuned Fwslimaidd yn lleisio anniddigrwydd amdani.

Mae’r traddodiad Islamaidd yn ystyried unrhyw bortread o’r proffwyd Mohammed yn gableddus ac mae lluniau ohono sy’n debyg i’r rhai ymddangosodd yn y digwyddiad yn Texas wedi sbarduno trais o amgylch y byd.

Roedd Elton Simpson, 30, o Phoenix, Arizona, a Nadir Soofi yn gwisgo arfwisgoedd, ac fe wnaeth un ergyd daro’r swyddog diogelwch yn ei goes.