Mae’r heddlu’n ymchwilio i farwolaeth dyn yng ngwesty’r Dorchester yn Llundain.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r gwesty nos Wener.

Mae lle i gredu bod y dyn yn ei 40au a’i fod ar ei wyliau o un o’r gwledydd Arabaidd.

Bu farw’r dyn yn y fan a’r lle.

Mae dau ddyn a gafodd eu harestio mewn perthynas â’i farwolaeth wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Dywedodd Heddlu Scotland Yard nad oes esboniad ynghylch ei farwolaeth hyd yma.