Mae’r Blaid Werdd wedi dweud eu bod nhw’n awyddus i leihau grym y teulu brenhinol, gan addo y bydden nhw’n sefydlu Confensiwn i ail-lunio’r Cyfansoddiad.

Mae arweinydd y blaid, Natalie Bennett wedi awgrymu y dylai gwledydd Prydain ddilyn esiampl Sweden, gan sicrhau mai rôl seremonïol fyddai gan y Frenhines.

Ond blaenoriaeth y blaid yw sicrhau bod y Cyfansoddiad yn cael ei ddiwygio er mwyn cyflwyno etholiadau cyfrannol ar gyfer dau dŷ San Steffan.

Dywedodd Natalie Bennett wrth raglen Murnaghan ar Sky: “Yn y Blaid Werdd, rydyn ni’n credu na ddylai fod lle i’r egwyddor o etifeddiaeth yn Cyfansoddiad.

“Rydyn ni am gael Tŷ’r Arglwyddi etholedig a chynrychiolaeth gyfrannol yn y Tŷ isaf a’r Tŷ uchaf.”

Dywedodd y byddai’r fath ddiwygiadau i’r teulu brenhinol yn gofyn am adolygiad ariannol.