Mae arweinydd UKIP, Nigel Farage wedi gwneud tro pedol ynghylch ei sylwadau am arlwy adloniant y BBC.

Roedd Farage wedi galw ar y Gorfforaeth i ganolbwyntio ar raglenni newyddion, a bellach mae e wedi galw am ddisodli rhaglen Newsnight.

Mae Farage wedi cyhuddo’r BBC o fod yn rhagfarnllyd, ac o niweidio’i blaid yn ystod y dadleuon teledu diweddar.

Mewn datganiad, dywedodd Farage: “Pan ddaw hi i ragfarn wleidyddol, mae’n amlwg i’r rhan fwyaf o bobol fod cefndir metropolitan a sefydliad cynifer o’i newyddiadurwyr yn broblem.

“Er enghraifft, dydy Newsnight ddim llawer mwy na fersiwn deledu o’r Guardian, gyda’i newyddiadurwyr yn symud rhwng y rhaglen a newyddion Channel Four yn aml.

“Dw i’n meddwl ei fod yn bryd i Newsnight fynd allan i bori a sefydlu rhaglen materion cyfoes a dehongli newyddion newydd i’w ddisodli.”

Ond ychwanegodd Farage y dylai’r Gorfforaeth fod yn falch o’i harlwy o raglenni adloniant, gan gynnwys Doctor Who.

Roedd Farage eisoes wedi galw am ddiddymu’r fath raglenni.

“Maen nhw wedi dod yn frandiau byd-eang gwerthfawr ac yn rhaglenni sy’n cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan gynulleidfaoedd Prydeinig.”

Ar raglen Andrew Marr yn gynharach heddiw, dywedodd Nigel Farage fod y BBC yn “dechrau gorchfygu lleisiau eraill yn y cyfryngau”.