Mae dyn aeth yn anymwybodol ar ôl ffrwgwd â’r heddlu yn Nyfnaint wedi marw yn yr ysbyty.

Cafodd y dyn 38 oed ei arestio y tu allan i far yn nhref Paignton.

Aed â’r dyn i’r ysbyty ar ôl iddo fynd yn anymwybodol, ond fe fu farw yn Ysbyty Torbay neithiwr.

Mae’r achos wedi’i drosglwyddo i Gomisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu.

Mae un dyn a gafodd ei arestio yn dilyn y ffrwgwd wedi cael ei ryddhau’n ddi-gyhuddiad, tra bod tri dyn arall wedi’u rhyddhau ar fechnïaeth.