Mae mwy na 1,200 o ffoaduriaid wedi cael eu hachub gan awdurdodau’r Eidal ym Môr y Canoldir oddi ar arfordir Libya.

Cafodd y ffoaduriaid eu cludo i nifer o borthladdoedd yr Eidal.

Daw’r ymdrechion diweddaraf ddiwrnod yn unig wedi i 200 o bobol gael eu hachub ger ynys Sicily.

Bythefnos yn ôl, suddodd cwch oedd yn cludo 800 o bobol yn y trychineb mwyaf yn hanes arfordir yr Eidal.

Dim ond 28 o bobol oedd wedi goroesi’r llongddrylliad hwnnw.

Mae’r Undeb Ewropeaidd eisoes wedi addo cynorthwyo’r broses o sicrhau bod ffoaduriaid yn ddiogel.

Yn ôl ffigurau’r BBC, mae 3,700 o bobol wedi cael eu hachub o’r ardal dros y penwythnos.