Mae arweinydd UKIP, Nigel Farage wedi cyhuddo’r BBC o “orchfygu lleisiau eraill yn y cyfryngau”.

Mae Farage wedi cyhuddo’r Gorfforaeth o beidio trin ei blaid fel un o’r prif bleidiau yn ystod y dadleuon teledu ar gyfer yr etholiad cyffredinol.

Mewn erthygl yn y Telegraph, dywedodd Nigel Farage: “Roedd penderfyniad bod UKIP yn un o’r pedair prif blaid ac a bod yn blwmp ac yn blaen, dydy’r BBC ddim wedi ein trin ni felly yn ystod yr ymgyrch etholiadol yma.”

Ychwanegodd Farage fod gwefannau lleol y BBC yn llesteirio datblygiad gwefannau newyddion eraill.

“Dw i’n credu bod cwestiwn go iawn ynghylch gwefan y BBC a newyddion lleol.

“Os yw gwefannau lleol y BBC mor gryf ac wedi’u hariannu cymaint ag ydyn nhw, sut all papurau newydd neu wefannau lleol gystadlu, hyd yn oed?

“Allan yn y rhanbarthau, mae’r BBC yn dechrau gorchfygu lleisiau eraill yn y cyfryngau.”

Yn ystod y ddadl deledu ar y BBC, roedd Farage wedi cyhuddo’r gynulleidfa o fod yn rhagfarnllyd ac yn rhy asgell chwith.