Mae penderfyniad arweinydd y Blaid Lafur, Ed Miliband i droi ei gefn ar glymblaid â’r SNP wedi helpu cenedlaetholwyr yr Alban, yn ôl eu harweinydd Nicola Sturgeon.
Mae polau’n awgrymu bod wfftio’r glymblaid yn “drychineb” i’r Blaid Lafur, a bod y penderfyniad wedi arwain at gynnydd yn y gefnogaeth i’r SNP.
Mae arweinydd y Blaid Lafur yn yr Alban, Jim Murphy wedi cyhuddo’r SNP o “gynllwynio refferendwm arall” pe baen nhw’n dod i rym.
Dywedodd Nicola Sturgeon heddiw: “Mae Ed Miliband wedi cael cymaint o fraw oherwydd rhethreg gwrth-SNP fel ei fod wedi gadael iddo’i hun gael ei fwlio gan y Torïaid – sydd wedi arwain at ei gyhoeddiad trychinebus y byddai’n well ganddo eu gadael nhw yn ôl i mewn na chydweithio gyda ni i’w cadw nhw allan o Stryd Downing.
“Roedd yn gam trwsgwl oherwydd yn yr Alban, mae’n creu mwy fyth o gefnogaeth i’r SNP – ac mae tystiolaeth eisoes o ran y bleidlais sy’n awgrymu bod hynny’n wir.”
Wfftiodd Nicola Sturgeon y cyhuddiad fod yr SNP am gynnal refferendwm arall ar unwaith.
“Nid annibyniaeth na refferendwm arall yw diben yr etholiad hwn.
“Y peth pwysig yw rhoi llais cryf i’r Alban – ac er mwyn gwneud hynny, mae angen i gymaint o’r wlad â phosib uno o gwmpas y neges honno.”
Dywedodd Jim Murphy: “Yn wahanol i’r cenedlaetholwyr, ni fydd cynllwynio refferendwm arall yn denu ein sylw.
“Nid yw’r SNP yn fodlon wfftio pleidlais arall oherwydd dyna’n union maen nhw’n ei gynllunio.
“Byddai hynny’n golygu blynyddoedd o rannu, yn hytrach na chanolbwyntio ar y pethau sy’n bwysig.”
Bydd arweinwyr yr Alban yn herio’i gilydd yn y ddadl deledu olaf ar y BBC am 7.30 heno.