Mae Leanne Wood wedi galw ar San Steffan i addasu a moderneiddio i’r Deyrnas Unedig sydd ohoni heddiw.

Dywed arweinydd Plaid Cymru fod dyheadau’r gwledydd unigol o fewn y DU yn golygu bod ynysoedd Prydain bellach yn “aml-genedlaethol”.

Galwodd hi am sicrhau bod Cymru’n derbyn yr un pwerau ac adnoddau â’r Alban, cyflwyno’r bleidlais drosglwyddadwy unigol i etholiadau Tŷ’r Cyffredin, a sefydlu cyngor newydd o weinidogion sy’n cynnwys llywodraethau datganoledig.

Wrth gyhoeddi ei dymuniadau, dywedodd Leanne Wood: “Mae’r etholiad hwn yn San Steffan yn ddi-gynsail nid yn unig am ei fod yn aml-bleidiol ond hefyd yn aml-genedlaethol, gyda Chymru a’r Alban yn ganolbwynt iddo oherwydd ein pleidiau cenedlaethol.

“Ond rhaid i ni sicrhau nad yw natur aml-genedlaethol ein gwleidyddiaeth yn dod i ben unwaith y caiff y pleidleisiau eu bwrw; ni all San Steffan ddychwelyd i’r un hen drefn ar 8 Mai.

“Bellach, rhaid i’r sefydliad barchu gofynion y gwledydd.”

Ychwanegodd y byddai sicrhau’r un cytundeb â’r Alban yn sicrhau terfyn ar “fframwaith eilradd” datganoli yng Nghymru, yn ogystal â £1.2 biliwn ychwanegol y flwyddyn.

Dywedodd y byddai cyflwyno’r bleidlais drosglwyddadwy unigol yn arwain at “adlewyrchu… dymuniadau democrataidd y bobol ym mhob man”.

“Rhaid i’r sefydliad bellach gydnabod realaeth y DU ôl-ddatganoli a disodli siop siarad y Cyd-bwyllgor Gweinidogol gyda Chyngor Gweinidogion y DU.

“Gallai’r corff hwn dynnu ynghyd y llywodraethau i ymdrin â materion sy’n effeithio ar gymunedau a gwledydd ar draws y DU ac fe ddylai hwyluso gwahaniaethau barn yn ogystal â meithrin cydweithrediad ar faterion o ddiddordeb i’n gilydd.”